Dadl bwydydd GM: melltith neu fendith?
Mae degawd a mwy ers i bron i bob math o fwydydd GM gael eu gwahardd o archfarchnadoedd Prydain.
Wrth i ni symud i’r 2010au rydym yn dod yn fwy ymwybodol o boblogaethau sy’n tyfu’n gyflym, yn enwedig mewn gwledydd sy’n datblygu, ac o’r ansicrwydd mawr oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Mae’r ffactorau hyn eisoes yn effeithio ar ddiogelwch cyflenwadau bwyd byd-eang ac mae’r argyfwng yn debygol o waethygu dros y degawdau nesaf.
Yn y ddadl hon, bydd arbenigwr rhyngwladol ar fiotechnoleg cnydau o Brifysgol Morgannwg yn trafod manteision ac anfanteision cnydau GM gyda dau ymchwilydd ôl-raddedig sydd â diddordeb yn yr amgylchedd a chadwraeth.
Bydd y ddadl yn cael ei hagor wedyn i gynnwys y gynulleidfa, gan orffen gyda phleidlais ar y cynnig hwn: A yw bwydydd GM yn felltith neu’n fendith?
A yw’n amser ailystyried y gwrthwynebiad gwreiddiol i fwydydd GM? Mae technoleg GM wedi gwella ac mae gwyddonwyr yn datblygu mathau newydd o gnydau GM yn gyson, sy’n fwy cynhyrchiol a maethlon.
Yn ogystal, mae llawer o’r cnydau GM newydd wedi’u bwriadu ar gyfer y gwledydd sy’n datblygu lle mae diogelwch bwyd yn broblem fawr. Honnir bod cnydau GM yn hanfodol i’r dasg o fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n dod i’r amlwg o ran cynhyrchu bwyd byd-eang.
Ar y llaw arall, a oes angen technoleg GM arnom mewn gwirionedd? A all y rhai sy’n bridio planhigion ddefnyddio dulliau eraill i wella eu cnydau?
A yw gwyddonwyr wedi ateb pryderon ymgyrchwyr gwrth-GM yngl?n â diogelwch bwyd neu gnydau GM yn dianc i’r amgylchedd? Mewn gwirionedd, onid yw GM yn ymwneud â chorfforaethau yn gwneud cymaint o elw â phosibl ac amaethyddiaeth ar raddfa ddiwydiannol, sydd ond yn fanteisiol i ambell i gwmni rhyngwladol a ffermydd mawr?
Felly, a yw bwydydd GM yn fendith neu’n felltith? Efallai nad ydynt yr un o’r ddau, neu’n gyfuniad o’r ddau o bosibl? Ymunwch yn y drafodaeth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau