Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru


Os oes gennych ddiddordeb yng ngwaith Amgueddfa Cymru, gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu cyfarfod chwarterol Bwrdd yr Amgueddfa
Sylwer: Cynhelir y cyfarfod yng Nghampws Caerllion, Prifysgol Casnewydd:
Ystafell Fwrdd, Prifysgol Casnewydd
Caerllion
Casnewydd NP18 3QT
Dydd Iau 28 Chwefror, 10.40am - 1pm
Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr – corff llywodraethol Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo’r Amgueddfeydd – yr awdurdod i benderfynu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â materion Amgueddfa Cymru.
Cynhelir pedair cyfarfod y flwyddyn, tair yng Nghaerdydd ac un mewn lleoliad arall yng Nghymru.
Mae cynnal cyfarfodydd Bwrdd agored yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddysgu mwy yngl?n â sut mae Amgueddfa Cymru’n gweithio, yn aml mewn partneriaeth â chyrff eraill yng Nghymru a thu hwnt.
I fynychu’r cyfarfod, a fydd yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg, cysylltwch â Elaine Cabuts ar (029) 2057 3204 neu e-bostiwch: rsvp@amgueddfacymru.ac.uk.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





