Ystof ac Anwe 2 - o w?dd llaw i gynhyrchu
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Yn dangos gwaith gwehyddion o Gymru a Lloegr sydd wedi trosglwyddo’u crefft i’r byd masnachol drwy weithio gyda melinau gwlân.
Bydd yr arddangosfa yn yr Amgueddfa yn caniatáu i ymwelwyr ddilyn datblygiad cynllun o’r gw?dd llaw hyd at y cynnyrch gorffenedig – y defnydd wedi’i wehyddu ar gyfer ffasiwn a dodrefn.
Bydd y broses ddylunio o archwilio lliwiau, dewis edafedd a phrosesau gorffen, nad ydynt yn cael eu gweld yn aml, yn dangos faint o waith sydd ei angen i greu defnydd wedi’i wehyddu.
Cynhelir Ystof ac Anwe 2 o 1 Medi 2010 i 8 Ionawr 2011 yn yr Amgueddfa Wlân Cymru, yn cydredeg gydag arddangosfa Warp & Weft yn Oriel Myrddin, Caerfyrddin (11 Medi hyd at 30 Hydref 2010).
Yn ogystal â’r dylunwyr, mae’r arddangosfa yn cydnabod ac yn clodfori melinau gwehyddu Cymru a’u profiad. Mae’r melinau yn gynyddol ddibynnol ar y math hwn o waith comisiwn.
Mae’r arddangosfa hon, yn fwy na dim, yn ddathliad o decstilau cyfoes wedi’u gwehyddu o grefft i ddiwydiant.
Mae’r arddangosfa yn cynnig cyfle i ni ddweud stori lawnach am y diwydiant gwlân drwy roi darlun cliriach o’r diwydiant fel y mae heddiw. Mae hefyd yn ein cynorthwyo yn ein gwaith o egluro’r broses o’r ddafad i ddefnydd.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau