Wythnos Addysg i Oedolion
Rhagflas o fywyd a diwylliant y Rhufeiniaid gydol yr wythnos:
Gwneud Ffelt o Wlân Defaid gyda Claire Cawte - Dydd Llun 17 Mai 10am
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer pobl o bob oed, a gan mai d?r a sebon yn unig fydd yn cael ei ddefnyddio, gall plant ifanc gymryd rhan gyda chymorth oedolyn.
Yn y sesiwn hon, a fydd yn para dwy awr, bydd myfyrwyr yn profi’r dulliau traddodiadol o wneud ffelt gan ddefnyddio gwlân defaid. Byddant yn gwneud darn o ffelt o gnu wedi’i liwio i greu darlun neu gynllun haniaethol wedi’i ysbrydoli gan wrthrychau o Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. 20 o lefydd ar gael
Gweithdy Castio Piwter gyda Mandy Nash - Dydd Mercher 19 Mai 10am
Gweithdy ymarferol lle cewch gyfle i ail-greu dulliau Rhufeinig o gastio piwter.
Mae’r gweithdy hwn yn apelio at bob oedran o wyth oed i fyny, a phob lefel gallu hefyd. Nid oes angen profiad blaenorol – gall pobl ddibrofiad greu eitemau proffesiynol yr olwg. Mewn sesiwn hanner diwrnod, bydd myfyrwyr yn cynllunio (gan ddefnyddio casgliadau’r Amgueddfa i’w hysbrydoli) ac yn cerfio eu mowldiau eu hunain cyn i’r tiwtor arllwys piwter tawdd iddynt. Yna caiff y darnau cast eu gorffen i greu torchau allwedd, broesau, mwclis, magnetau oergell a symudion bach. 10 o lefydd ar gael
Gwneud Sgrôl Inc a Memrwn gyda Catherine Lewis - Dydd Iau 20 Mai 2pm
Bydd myfyrwyr yn gwneud sgrol o femrwn gydag inc cartref a sêl cwyr, gan ddefnyddio technegau ysgrifennu traddodiadol a deunyddiau cynhenid Prydeinig o gyfnod y goresgyniad Rhufeinig.
Byddwn yn cyfeirio at sgriptiau a darluniau Rhufeinig, ymchwilio i ddulliau o wneud pigmentau ac inciau, a defnyddio memrwn naturiol o groen defaid a geifr, yn ogystal â rhisgl. 10 o lefydd ar gael
Creu Llifynnau o Blanhigion Lleol gyda Claire Cawte - Dydd Gwener 21 Mai 2pm
Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer pobl o bob oed. Bydd y sesiwn ddwy awr hon yn gyfle i’r myfyrwyr ddysgu sut i dynnu lliw o blanhigion i wneud hylif cyfoethog i liwio defnydd. Gellir gosod amrywiaeth o ddefnyddiau, neu’r ffelt a baratowyd o flaen llaw, yn y llifyn hwn. Bydd y myfyrwyr yn archwilio gwahanol lifynnau o blanhigion ac yn dysgu sut i drosglwyddo lliw a phrint y dail i ddefnydd i greu collage lliwgar. 20 o lefydd ar gael

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





