Uchafbwyntiau Argraffiadaeth
[delwedd: ]
Claude Monet (1840 - 1926)
Eglwys Gadeiriol Rouen: Machlud Haul (1892-4)
[delwedd: ]
Camille Pissaro (1831-1903)
Machlud Haul, Porthladd Rouen (1898)
Mae’r arddangosfa wych hon yn cyflwyno’r goreuon o gasgliad enwog Amgueddfa Cymru yn cynnwys gweithiau gan Manet, Monet, Boudin, Pissarro, Sisley, Cézanne, Renoir, Degas, Rodin a’r rhai a fedyddiwyd yn ‘Argraffiadwyr Prydeinig’.
Agorodd Argraffiadaeth lygaid artistiaid i foderniaeth, gan ddatgelu byd yn llawn o olau a naws.
Roedd y testunau anffurfiol, lliwiau llachar a thechnegau rhydd yn achos protest i ddechrau, ond yn y pen draw byddai’n cael effaith rhyngwladol.
Roedd yr Argraffiadwyr cyntaf yn gr?p o artistiaid ifanc o Ffrainc, a oedd yn rhwystredig gydag egwyddorion hen ffasiwn celf academaidd.
Yn 1874 cynhaliwyd eu harddangosfa annibynnol gyntaf yn cynnwys gweithiau gan Claude Monet, Camille Pissarro, Edgar Degas, Auguste Renoir, Alfred Sisley a Paul Cézanne.
Yn y lle cyntaf roedd nifer o feirniaid yn gwawdio’u syniadau radicalaidd. Roedd eu gweithiau yn portreadu bywyd modern a’r byd o’u cwmpas. Roeddent yn peintio’n gyflym, yn aml yn yr awyr agored, i ddal ‘argraff’ moment wrth basio.
Roedd cerflunwyr hefyd yn diystyru safonau academaidd drwy gynrychioli symudiadau realistig ac amherffeithrwydd eu modelau.
Auguste Rodin oedd un o’r mwyaf dylanwadol. Yn ogystal â chynhyrchu ffigurau real, defnyddiodd nodweddion corfforol ei ddeunyddiau i fynegi elfen emosiynol.
Llifodd artistiaid tramor i Ffrainc ac ysgolion celf Paris, i brofi a dysgu am y technegau newydd hyn. Effeithiodd Argraffiadaeth yn ddwfn ar nifer o arlunwyr Prydeinig.
Roedd grwpiau megis y New English Art Club ymysg y rhai a oedd bellach yn cael eu hadnabod fel ‘Argraffiadwyr Prydain’.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau