Gweithgareddau bioamrywiaeth: dathliad tri-diwrnod
Mae bioamrywiaeth yn hanfodol i’n iechyd a’n lles, ein heconomi ac yn y pen draw ein bywydau. Gall y teulu cyfan fwynhau bioamrywiaeth yn ystod y digwyddiad tri diwrnod yma, pan ddaw’r Amgueddfa’n fyw gyda chymysgedd o weithgareddau am ddim.
Beth am yrru 5 milltir yn llai bob wythnos? Gweithiwch gyda’ch gr?p cadwraeth leol, plannwch goed brodorol yn eich gardd neu gofynnwch i’ch bwyty lleol a ydyn nhw’n prynu bwyd môr o ffynonellau cynaliadwy.
Ymunwch â mudiadau a grwpiau o ar draws Cymru i ddathlu’r ymgyrch Fyd-eang, Blwyddyn Rhyngwladol Bioamrywiaeth o 20 - 22 Mai 2010, a gwnewch wahaniaeth.
Bydd mudiadau fel Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru’n cynnig syniadau a chyngor i ymwelwyr yngl?n â’r hyn y gallant wneud i amddiffyn bioamrywiaeth adref. Byddwn ni hefyd yn gofyn i chi addo i Wneud Un Peth i helpu i daclo’r broblem.
Fel rhan o Wythnos Addysg i Oedolion, cewch gyfle i archwilio i’n casgliadau a chyfarfod y curaduron. Archebwch taith arbennig y tu ôl i’r llenni ar dydd Sadwrn 22 Mai (am 11.30am a 2.30pm) yn ddangos casgliadau nad sydd fel arfer yn cael eu harddangos fel pryfed a ffosilau, yn cynnig mwy o wybodaeth yngl?n â’r gwaith ymchwil a wnaed gan wyddonwyr yr Amgueddfa.
Bydd cyflwynydd bywyd gwyllt y BBC - Rhys Jones a’i ymlusgiaid yn bresennol. Amffibiaid ac ymlusgiaid byw fydd yn cadw cwmni i Gyngor Caerdydd hefyd. Bydd RSPB Cymru yno i ddangos yr Hebogiaid yn nythu ar ben T?r y Cloc Neuadd y Ddinas drwy delesgop a’r gwe-gamera, tra bydd gan Asiantaeth yr Amgylchedd gem ciwb mawr i blant.
Bydd The Ancient Tree Hunt yn cynnig teithiau i blant i ffeindio anifeiliaid mewn coed cyfagos a bydd Prifysgol Abertawe’n edrych ar yr amrywiaeth o anifeiliaid, bwyd a gweoedd drwy ddefnyddio chwyddwydr.
Bydd y digwyddiad hefyd yn dathlu beth sy’n barod yn cael ei wneud gan fudiadau yng Nghymru a thrwy brosiectau gan gynnwys BBC Breathing Places, Institute of Ecology and Environmental Management a Chymdeithas Ecolegol Prydain, SEWBReC, Parc Geneteg Cymru, Coed Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae’r digwyddiad yma’n rhan o ddathliadau Byd-eang 2010 – Blwyddyn Rhyngwladol Bioamrywiaeth. Mae amrywiaeth bywyd ar y ddaear yn hanfodol ar gyfer lles dynol-ryw a nawr yw’r amser i’w ddiogelu. Ceir gwybodaeth am ddigwyddiadau, prosiectau ac arddangosfeydd ar draws y DU ar www.biodiversityislife.net.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau