Hwyl y Pasg!
Dewch i ymuno yn hwyl y Pasg â chymaint i'w weld yn yr Amgueddfa.
Ymunwch yn yr helfa lliwio ?y Pasg cyn dychwelyd i Oriel 1 i wneud eich basged Pasg eich hun yn llawn danteithion.
Crwydrwch i Ffermdy Llwyn yr Eos i flasu melysion traddodiadol*(Sadwrn a Llun) a mynd ag ambell rysait adref gyda chi.
Ymwelwch a'r Cowper*(Sadwrn a Llun) yn gwneud casgenni yn y Felin Lif a'r Nyddwr Llaw*(Sul a Llun) yn Abernodwydd ar eich ffordd i'r Talwrn lle bydd ein storïwr yn eich diddanu gyda straeon traddodiadol*(Sadwrn, Sul a Llun).
Bydd digonedd o demptasiwn ar stondinau crefft Oakdale tra fo'r ffair draddodiadol yn cadw diddordeb y plant.
I orffen, dysgwch sut i fwrw'r targed yng Ngerddi'r Castell yn ein gweithdy bwa a saeth cyn galw heibio Caffi Bardi am bicen y grog gwerth ei chael.
*Y gweithgareddau hyn ar gael ar y diwrnodiau a nodir yn unig.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau