Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Oedolion / Am ddim

Darlith Flynyddol Big Pit 2010

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 27 Maw 2010, 2.30pm

Mae ein darlith eleni yn nodi canmlwyddiant ers streic y Cambrian Combine a arweiniodd at Derfysgoedd Tonypandy, ac yn trafod y bennod bwysig hon yn hanes Cymru.

Penderfynodd Churchill ymyrryd yn y mater ac anfon milwyr draw i’r cymoedd, penderfyniad amhoblogaidd ar y pryd sy’n dal yn destun dadlau hyd heddiw.

Mae David Maddox OBE yn cael ei gydnabod fel arbenigwr ar Derfysgoedd Tonypandy, ac ef yw gwestai arbennig y digwyddiad hwn.

Bu David yn athro yng Nghwm Rhondda am sawl blwyddyn, cyn mynd yn Ddirprwy Brif Gynghorydd gyda Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion (ESIS).  Bellach, mae’n cynghori’r BBC ar raglenni hanes i ysgolion, ac wedi gweithio’n ddiweddar gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Mae’r tocynnau am ddim, a gallwch eu casglu yn nerbynfa Big Pit ar y diwrnod.