Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Newid yn yr hinsawdd – Beth sy’n digwydd?

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 6 Mehefin 2010 2010

[delwedd: Llifogydd yn Aberfan - Jeff Morgan, photolibrarywales.com]

Llifogydd yn Aberfan - Jeff Morgan, photolibrarywales.com

[delwedd: Gwarback Solar - G24 Innovations www.g24i.com]

Gwarback Solar - G24 Innovations www.g24i.com

Ni sy’n newid y blaned. Dysgwch y gwirionedd am newid yn yr hinsawdd yn Amgueddfa Lechi Cymru.

Nid oes gan brif wyddonwyr y byd unrhyw amheuaeth bod gweithgarwch dynol yn newid ein hinsawdd.

Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd mae’r dystiolaeth yn ‘ddiamwys’ mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol am y cynhesu sydd wedi digwydd ers dechrau’r oes ddiwydiannol.

Mae’r arddangosfa hon yn ateb y prif gwestiynau am newid yn yr hinsawdd:

Sut ydyn ni’n gwybod mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol?

Oni fydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus ac yn fwy heulog ym Mhrydain?

Ydy hi’n rhy hwyr i newid?

Does dim pwynt i fi wneud dim nag oes?

Beth yw’r pwynt i ni newid os na fydd Tsieina ac America’n newid?

Beth yw newid peryglus yn yr hinsawdd?

Rhy boeth – rhy gyflym! Ydy’r peth mor bwysig â hynny?

 

Newid yn yr hinsawdd yw’r prif fygythiad i fywyd ar ein planed. Dysgwch beth yw’r goblygiadau i Gymru, y Byd a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth. Y cam cyntaf yw deall newid yn yr hinsawdd.