Dydd Gŵyl Dewi
Dewch i wrando ar nodau pêr y delyn a thwymo gyda phowlen o gawl Cymreig ym mwyty'r Amgueddfa. Galwch draw i ffermdy Llwyn yr Eos i weld pa rhyseitiau poblogaidd o Gymru fydd ar y maen. Bydd cacen gri am ddim i bawb hefyd!
Galwch draw i'n bwyty i flasu ein bwydlen arbennig:
Cawl cennin a thatws
Sewin (Brithyll Môr) o’r gridyll â chot o fenyn lemwn gyda chocos Bae Abertawe a stribedi cig moch ar ei ben
Selsig porc cartref San Ffagan a caserol ffa cymysg gyda gorchudd crwst mwstard a pherlysiau
Courgettes wedi’i bobi gyda stwffin codlysiau a llysiau gyda sglein caws tawdd traddodiadol Cymreig

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





