Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim / Argymhellir archebu: 029 2057 3424

Y Pasg yn Eglwys Sant Teilo

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 29 Maw4 Ebr 2010, 12.00 (Taith Gymraeg) 11.00 / 14.00 / 15.00 (Taith Saesneg)

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Ym 1520, byddai Eglwys Sant Teilo wedi bod yn llawn bwrlwm adeg y Pasg, sef uchafbwynt y flwyddyn Gristnogol yng Nghymru yn Oes y Tuduriaid.

Yn ogystal â lle i addoli a myfyrio, roedd yr Eglwys yn gyrchfan ar gyfer adloniant a digwyddiadau cymdeithasol. Byddai digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal yno hyd yn oed, fel gornest ymladd ceiliogod yn y fynwent.

Roedd pobl y cyfnod yn credu y gallai’r tir cysegredig ddileu unrhyw swyn i wella perfformiad y rhai oedd yn cymryd rhan.

Ymunwch â’r Dehonglydd Addysg i gael golwg o’r newydd ar yr adeilad a’i hanes. Dewch i glywed am gyfraniad lliwgar yr eglwys at fywyd Cymru yn Oes y Tuduriaid, a hanes diddorol y murluniau a’r cerfiadau cain sydd wedi’u hail-greu mor gelfydd.

Bydd sesiwn holi ac ateb fer ar ddiwedd pob taith.

Mae na hefyd digonedd o Hwyl y Pasg i'w gael yn Sain Fagan y blwyddyn yma!