Y Pasg yn Eglwys Sant Teilo
Ym 1520, byddai Eglwys Sant Teilo wedi bod yn llawn bwrlwm adeg y Pasg, sef uchafbwynt y flwyddyn Gristnogol yng Nghymru yn Oes y Tuduriaid.
Yn ogystal â lle i addoli a myfyrio, roedd yr Eglwys yn gyrchfan ar gyfer adloniant a digwyddiadau cymdeithasol. Byddai digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal yno hyd yn oed, fel gornest ymladd ceiliogod yn y fynwent.
Roedd pobl y cyfnod yn credu y gallai’r tir cysegredig ddileu unrhyw swyn i wella perfformiad y rhai oedd yn cymryd rhan.
Ymunwch â’r Dehonglydd Addysg i gael golwg o’r newydd ar yr adeilad a’i hanes. Dewch i glywed am gyfraniad lliwgar yr eglwys at fywyd Cymru yn Oes y Tuduriaid, a hanes diddorol y murluniau a’r cerfiadau cain sydd wedi’u hail-greu mor gelfydd.
Bydd sesiwn holi ac ateb fer ar ddiwedd pob taith.
Mae na hefyd digonedd o Hwyl y Pasg i'w gael yn Sain Fagan y blwyddyn yma!

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau