Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim / Ymweliadau Grwpiau Addysgol – rhaid archebu (+ 44 (0) 29 20573240)

Artes Mundi 4 - Celfyddydaur byd

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 6 Mehefin 2010 2010 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

[delwedd: Adrian Paci, Noise of light, 2005]

Adrian Paci, Noise of light, 2005
Mixed media
Dimensions variable
© Courtesy Francesca Kaufmann, Milan

[delwedd: Yael Bartana, Wall and Tower, 2009]

Yael Bartana, Wall and Tower, 2009
One channel RED transfer to 35mm film
Duration: 16 min
Courtesy Annet Gelink Gallery Amsterdam

[delwedd: Olga Chernysheva, From the series 'On Duty', 2007]

Olga Chernysheva, From the series 'On Duty', 2007
Gelatin-silver fiber based print
© Courtesy of Olga Chernysheva

[delwedd: Chen Chieh-jen, Empire's Borders I]

Chen Chieh-jen, Empire's Borders I, 2008-2009
35mm transferred to DVD, color & b/w, sound
27 minutes, Single-channel, continuous projection
+ 16 Documents

Un Byd, Dynoliaeth Gyfan

Mae Artes Mundi yn arddangosfa a wobr celfyddyd gyfoes ryngwadol sydd yn dathlu artistiaid o bob cwr o’r byd sy’n prysur wneud enw iddynt eu hunain trwy drafod y cyflwr dynol.

Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno celf sy’n cwestiynu pwy ydym ni a’r cymdeithasau yr ydym yn byw ynddynt.

O ffresgo a lluniadu, i ffotograffiaeth a ffilm, mae Artes Mundi 4 yn archwilio bydoedd a phrofiadau gwahanol trwy gyfrwng celfyddyd gyfoes.

Tynnwyd rhestr fer o wyth artist drwy ymchwil ac o blith dros 500 o enwebiadau. Dyfernir Gwobr Artes Mundi i Yael Bartana yn mis Mai. Y wobr hon o £40,000 yw’r fwyaf o’i bath yn y DU.

Mae Tywysyddion Byw, sydd wedi cyfarfod yr holl artistiaid, wrth law i ateb cwestiynau, arwain teithiau, tywys ymweliadau i ysgolion a grwpiau addysgol a chyflwyno gweithgareddau i deuluoedd ac yn ystod y gwyliau.

Yr artistiaid:

Yael Bartana - mae ei ffilmiau'n canolbwyntio ar sefyllfa wleidyddol Israel a'r materion sy'n wynebu'r gymuned Iddewig.

Fernando Bryce - mae'n archwilio sut mae cyfryngau gweledol ac ysgrifenedig wedi cyflwyno hanes a digwyddiadau trwy gyfrwng lluniadau inc Indiaidd.

Ergin Çavu?o?lu - mae'n archwilio syniadau'n ymwneud ag ymfudo a symud gan awgrymu sut mae pob un ohonom yn rhan o bynciau mawr ein byd.

Olga Chernysheva - mae'n defnyddio ffotograffiaeth a ffilm ac yn dangos sut mae pobl yn gwneud synnwyr o'u bywydau mewn cymdeithas sy'n newid yn barhaus.

Chen Chieh-jen - mae'n creu gwaith fel gweithred o wrthwynebiad, gan amlygu sut mae llafur a diwylliant prynu yn effeithio ar y rhai sydd wedi'u dial yn rhwyd globaleiddio.

Gulnara Kasmalieva a Muratbek Djumaliev - maent yn cyflwyno cipolwg ar y ffordd y mae cwymp comiwnyddiaeth wedi newid gwerthoedd cymdeithas.

Adrian Paci - derbyniodd hyfforddiant traddiodiadol fel peintiwr ffresgoau ond mae bellach yn defnyddio'i sgiliau i ddangos yr elfennau sy'n gyffredin yn ein bydoedd gwahanol.

Digwyddiadau ar y cyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Teithiau am ddim bob dydd -12:30pm

Cert Celf gweithgareddau - benwythnosau 10am - 4pm

Gwyliau'r Sulgwyn - Gweithdai i’r teulu 11am, 1pm a 3pm (am awr a chwarter).

 

Caiff Artes Mundi ei hariannu’n gyhoeddus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru a thrwy bartneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Prif gefnogwyr Artes Mundi 4 yw Bank of America Merrill Lynch a Canolfan Siopa St David’s Dewi Sant. Daw cefnogaeth ychwanegol o Sky Arts, Western Mail, Admiral, Legal & General, Confused.com, Starbucks, First Great Western, FBA, UWIC, Celfyddydau a Busnes Cymru, Prifysgol Morgannwg, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Sefydliad Esmée Fairbairn, Sefydliad Foyle, Sefydliad Waterloo, Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Derek Williams, Sefydliad Derek Hill, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, CASW a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.