La Casa Di Dio: Atgofion Eidalwyr yng Nghymru
Wedi i’r Eidalwyr ildio yng Ngogledd Affrica yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd 1,500 o garcharorion rhyfel eu symud i POW Camp 70, yn Henllan, ger Castell Newydd Emlyn.
Mae La Casa di Dio, sef T? Duw, yn adrodd hanes yr Eidalwyr yn y gwersyll, yn ogystal â’r crair unigryw a adeiladwyd tu fewn i’r gwersyll gan y carcharorion rhyfel.
Ym mhell o adref, penderfynodd carcharorion Henllan symud allan o un o’r cabanau cysgu, ac adeiladu eglwys ynddi. Defnyddiwyd cynhwysion amgen, o foron a thobaco i greu paent, i hen duniau bully beef, a sment benthyg, i greu eglwys.
Un o nodweddion mwyaf trawiadol yr eglwys hon yw cryndô a ffresco o’r Swper Olaf a beintiwyd gan yr artist Mario Ferlito. Anrhydedd mawr fu cael cyfle i gyfweld a Mario yn ei gartref yn Ornvasso, gan iddo farw ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn Mai 2009.
Cawn glywed hanes Toni Vasami, un o’r carcharorion, gan ei fab Gino sydd bellach yn ffarmwr lleol a pherchennog bwyty La Calabria ger Llandysul. Yn ogystal bydd Toni Sarracini o Gastell Newydd Emlyn yn sôn am ei dad, Angelo, oedd hefyd yn garcharor yn POW Camp 70.
Ceir cymysgedd o leisiau eraill yn cyfrannu i’r stori. Bydd Jon Meirion Jones, hanesydd lleol ac awdur llyfr sy’n olrhain hanes yr eglwys ryfeddol hon yn cael ei gyfweld yn ystod y ffilm. Hefyd bydd Glenys Anthony, a fu’r unig ddynes i weithio yn y gwersyll, a Bob Thomson a fu’n gofalu am yr eglwys ers 1960 yn siarad am eu profiadau.
Dewch i ymgolli mewn rhan fechan ond gwefreiddiol o hanes yr Eidalwyr yng Nghymru.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau