Taith Gerdded Hanesyddol a Naturiaethol
Taith gerdded o amgylch pentref Dre-fach Felindre yng nghwmni prif grefftwr Amgueddfa Wlân Cymru, Keith Rees, ac aelod o Gymdeithas Edward Llwyd.
Bydd y daith yn eich tywys hyd lonydd cefn Dre-fach Felindre gan dynnu eich sylw at yr adeiladau hanesyddol, yr hen felinau gwlân ac at fyd natur yr ardal a gyfrannodd at y diwydiant gwlân.
Taith hamddenol 5 milltir fydd hon ac awgrymir efallai dod â phecyn bwyd ac wrth gwrs ddillad addas. Mae’r daith hon am ddim ac mae croeso i bawb.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





