Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Wlân Cymru

Taith Gerdded Hanesyddol a Naturiaethol

6 Maw 10yb - 3yp (Nodyn. Ar gau Dydd Llun Hydref–Mawrth)
Rhan o'r daith, yn mynd heibio Melin Dolwion.
Rhan o'r daith, yn mynd heibio Melin Dolwion.

Taith gerdded o amgylch pentref Dre-fach Felindre yng nghwmni prif grefftwr Amgueddfa Wlân Cymru, Keith Rees, ac aelod o Gymdeithas Edward Llwyd.  

Bydd y daith yn eich tywys hyd lonydd cefn Dre-fach Felindre gan dynnu eich sylw at yr adeiladau hanesyddol, yr hen felinau gwlân ac at fyd natur yr ardal a gyfrannodd at y diwydiant gwlân.

Taith hamddenol 5 milltir fydd hon ac awgrymir efallai dod â phecyn bwyd ac wrth gwrs ddillad addas. Mae’r daith hon am ddim ac mae croeso i bawb.

Pawb / Am ddim

iCal Ychwanegu i Outlook / iCal
iCal Ychwanegu i Google Calendar

Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Wlân Cymru
Hafan Amgueddfa Wlân Cymru
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau