Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Hyd y diferyn olaf: Olew a Llandarcy

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 21 Chwefror 2010 2010
Llandarcy at night
Filter House Workmen, 1940s
Lube oil complex workers, 1990s

Mae Hyd y diferyn olaf: Olew a Llandarcy yn arddangosfa arbennig i goffau purfa olew fawr gyntaf Prydain.

Mae'r arddangosfa yn archwilio hanes y safle yn Sgiwen, y broses o gynhyrchu a chludo’r olew, a’r pentref a’r bywyd cymdeithasol oedd yno.

Agorodd Purfa Sgiwen, fel y’i gelwid yn wreiddiol, ar 29 Mehefin 1922 ac aeth drwy sawl cyfnod o gynnydd a dirywiad cyn iddi gau ym 1997.

Cost y datblygiad gwreiddiol oedd £3 miliwn, ac roedd yn cynnwys dros 650 erw a phentref newydd o tua 250 o dai ar gyfer gweithwyr.

Y burfa oedd un o brif gyflogwyr y De Orllewin yn y 1950au, gyda dros 2,600 o ddynion a menywod yn gweithio yno.

Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau bydd ymwelwyr yn cael y cyfle i ddarllen atgofion personol y gweithwyr a’r pentrefwyr.

Gwrandewch ar Susan James yn siarad am yr ysbryd a’r gweithgareddau cymunedol, a Georgie Jones a ddechreuodd weithio yn labordy stoc y safle yn Awst 1942 ac a hyfforddwyd i brofi gasolin 80, 72 a 100 octan, olew nwy, cerosin, gwirod gwyn, bitwmen, bensol a gel ar gyfer gynnau tân.

Caiff ymwelwyr hefyd gyfle i ddysgu am y cynlluniau i ailddatblygu’r safle i greu pentref trefol Coed Darcy gwerth £1.2 biliwn gan brif arbenigwyr adfywio Prydain, St Modwen.