Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Wlân Cymru

Diwrnod Sgiliau Gwledig

20 Chw 10am-3pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun Hydref–Mawrth)

Ymunwch a ni yn Amgueddfa Wlân Cymru i weld amrywiaeth o grefftwyr ar waith, a chael tro eich hunan.  

Mae’r sgiliau bydd yn cael eu harddangos yn cynnwys:

plethu rhaffau

gwneud clocsiau

Gwneud cyfrwyau

gwneud penwastau/ffrwynau

lliwio a rholio gwlân

Gwau

Gwneud potiau seramig 

Gwneud basgedi o helyg

...a mwy.

Bydd Telynnau Teifi hefyd yn arddangos eu crefft a bydd Martyn Fowler o’r Ganolfan Gwryglau yn cynnal dwy sgwrs, un am 11am a’r llall am 1pm am ei gasgliad o gwryglau o bob cwr o’r byd.

Pawb / Am ddim

iCal Ychwanegu i Outlook / iCal
iCal Ychwanegu i Google Calendar

Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Wlân Cymru
Hafan Amgueddfa Wlân Cymru
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau