Atgofion Eidalwyr yng Nghymru
Mae'r arddangosfa Atgofion Eidalwyr yng Nghymru yn Oriel 1 yn olrhain bywydau’r Eidalwyr a ymfudodd i Gymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Ceir ynddi ffotograffau a straeon personol yn llawn atgofion am fywyd yn yr Eidal, profiadau’r newydd-ddyfodiaid yng Nghymru, eu llwyddiannau a’u cysylltiadau â’u gwreiddiau Eidalaidd.
Diweithdra uchel a llywodraeth wan – dyna rai o’r ffactorau a arweiniodd at y don fawr gyntaf o fewnfudwyr o’r Eidal i Brydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Cefnodd llu o Eidalwyr ar eu mamwlad er mwyn chwilio am ddyfodol gwell.
Daeth llawer i Gymru a sefydlu caffis, busnesau hufen iâ a siopau sglodion yma. Roeddynt yn fusnesau ffyniannus ac yn olygfa gyfarwydd dros ben, yn enwedig y caffis.
Daeth rhai i weithio yn y pyllau glo a’r gweithfeydd dur ac arhosodd llawer o garcharorion rhyfel yng Nghymru i weithio mewn ffermydd.
Cafodd y rhan fwyaf o’r Eidalwyr groeso cynnes gan y Cymry, ac fe’u dilynwyd gan ffrindiau a pherthnasau eraill yn fuan wedyn.
Trwy waith caled a dyfalbarhad, llwyddodd yr Eidalwyr i ennill eu plwyf ymhlith y Cymry. Fe wnaethant ymdoddi’n dda, rhedeg busnesau llwyddiannus a datblygu’n ffigurau lleol a chenedlaethol uchel eu parch.
Roedd diwylliant a thraddodiadau’r Eidal yn cyd-fyw â rhai Cymru.
Heddiw, mae Eidalwyr yr ail genhedlaeth yn cadw’u hunaniaeth ddiwylliannol yn fyw trwy ddathlu eu bwyd, ei hiaith a’u credoau, a thrwy ymweld â’r Eidal cyn amled â phosibl.
Yn fwy na dim, maen nhw’n hynod o falch o’r cam enfawr a mentrus a gymerodd eu rhieni flynyddoedd yn ôl.
Mae Atgofion Eidalwyr yng Nghymru wedi'i churadu gan Acli-Enaip (cymdeithas i Eidalwyr alltud). Noddwyd gan gymdeithas adeiladu yr Principality.
Derbyniodd y mudiad arian trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri i gasglu dros 50 o gyfweliadau ar gyfer yr arddangosfa; gellir darllen eu hanesion ochr yn ochr â ffotograffau teuluol.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





