Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Gweithdai Celf: 1950'au
Wedi ei ysbrydoli gan arddangosfa newydd sbon Oriel 1 'Atgofion Eidalwyr yng Nghymru', dewch i ymuno a'r gweithdy celf hwn i edrych ar batrymau a dyluniau yr 1950'au.
Cyfle perffaith i dorchi llawes a chreu llanast wrth wneud collage, printiau a stensiliau.
Cyfyngir y niferoedd ar y gweithgaredd poblogaidd hwn felly peidiwch anghofio archebu o flaen llaw i arbed siom!
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cefnodd llu o Eidalwyr ar eu mamwlad er mwyn chwilio am ddyfodol gwell.
Daeth llawer i Gymru, a sefydlu caffis, busnesau hufen iâ a siopau sglodion yma.
Cafodd y rhan fwyaf o’r Eidalwyr groeso cynnes gan y Cymry, ac fe’u dilynwyd gan ffrindiau a pherthnasau eraill yn fuan wedyn.
Trwy waith caled a dyfalbarhad, llwyddodd yr Eidalwyr i ennill eu plwyf ymhlith y Cymry. Fe wnaethant ymdoddi’n dda, rhedeg busnesau llwyddiannus a datblygu’n ffigurau lleol a chenedlaethol uchel eu parch.
Roedd diwylliant a thraddodiadau’r Eidal yn cyd-fyw â rhai Cymru.
Gwelwch Atgofion Eidalwyr yng Nghymru yn Sain Ffagan.
Gweld digwyddiadau i gyd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Hafan Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau
