Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dilyn anturiaethau rhwyfwyr yr Iwerydd
Dychmygwch rwyfo 2,500 o filltiroedd môr ar draws yr Iwerydd a pharatoi ar gyfer 65 o ddyddiau ar y môr.
Mae'n her heb ei ail sy'n wynebu dau ddyn tân o Abertawe fis Rhagfyr.
Mae Mike Arnold yn ddeugain oed ac yn dod o'r Mwmbwls a Simon Evans yn 38 oed o ardal Brynmill. Mae'r ddau'n ymbaratoi at y prawf o'u cryfder a'u gwytnwch gyda Ras Woodvale ar draws yr Iwerydd. Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn eu dilyn pob rhwyfiad o'r ffordd gydag arddangosfa arbennig.
Nhw yw'r unig dîm o Gymru a dechreuant yn La Gomera yn yr Ynysoedd Dedwydd a mynd i Antigwa yn y Caribî sy'n daith o 2,500 o filltiroedd môr fydd yn cymryd rhyw 55 o ddyddiau. Byddant yn hwylio mewn cwch Adkin Paris sydd wedi'i adeiladu'n unswydd ac sy'n mesuro 23.4 o droedfeddi ar hyd a 6.3 o droedfeddi ar draws yn unig.
Ewch i http://www.atlanticelement.co.uk am fwy o fanylion.
Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hafan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau
