Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Craffu ar Rembrandt
Portread o Catrina Hooghsaet (1607-1685)
1657
Olew ar gynfas
Ar fenthyg gan gasgliad preifat © casgiald preifat
1638
Ysgythriad ar bapur
Cymynrodd gan James Pyke Thompson 1898
NMW A 11498
1648
Ysgythriad, pwyntil sych a phwyntil ar bapur
Trosglwyddwyd o Dŷ Turner 1921
NMW A 11483
Er ei fod yn fethdalwr, Rembrandt oedd un o brif artistiaid ei oes.
Erbyn hyn mae'n cael ei gydnabod fel un o'r ffigyrau pwysicaf yn hanes celf y byd.
Ym 1657 comisiynwyd Rembrandt i beintio'r foneddiges gyfoethog o Amsterdam Catrina Hooghsaet. Oherwydd bri rhyngwladol Rembrandt, daeth y waith i Brydain cyn gynted â'r 1720au mwy na thebyg. Castell Penrhyn ger Bangor yw cartref y portread ers y 1860au.
Dyma arddangosfa arbennig o Portrait of Catrina Hooghsaet gan Rembrandt, ar fenthyg o Gastell Penrhyn, ynghyd â'r brasluniau gwreiddiol o gasgliad Amgueddfa Cymru.
Addasodd Rembrandt draddodiadau celf yr Iseldiroedd i gyd-fynd â'i arddull ei hun. Wrth beintio portreadau roedd ei allu i ddal ymddangosiad naturiol y model yn flaengar iawn.
Peintiodd gymeriadau ac nid wynebau'n unig.
Pwy oedd Catrina Hooghsaet?
Yma gwelir Catrina Hooghsaet yn edrych yn berson annibynnol, penderfynol a braidd yn ecsentrig - nid yn annhebyg i Rembrandt ei hun.
Mae portread Rembrandt yn dweud cyfrolau am ei fodel:
Dillad: mae gwisg ddu syber? Catrina â chyffiau, coler a chap gwyn yn dangos ei bod yn aelod o enwad crefyddol llym y Mennoniaid.
Roedd llawer o'r aelodau'n gefnog ac mae gwisg sidan Catrina a'i phethau cain yn arwydd o'i chefndir cyfoethog.
Hances: roedd hancesi'n bethau moethus ac yn arwydd o gyfoeth ac agwedd soffistigedig.
Penwisg: mae cap cymhleth Catrina wedi'i binio â pherlau ac wedi'i dynnu'n dynn o gwmpas hoofdijsertgen (heyrn pen) gwerthfawr o aur sy'n cydio yn ei bochgernau.
Dwylo: symudodd Rembrandt safle gwreiddiol ei dwylo a'u gosod ar freichiau'r gadair sy'n rhoi awdurdod i ystum Catrina. Dynion sydd fel arfer yn eistedd felly mewn portreadau.
Ystum: roedd modelau benywaidd fel arfer yn eistedd gan wynebu'r chwith a'u gwŷr yn wynebu'r dde i ffurfio pâr taclus.
Ond yn wahanol i'r arfer roedd Catrina'n byw ar wahân i'w gŵr ac ni pheintiodd Rembrandt mohono. Yn achos Catrina mae'n wynebu ei pharotyn anwes.
Parotyn: Cafodd parotynod eu mewnforio ar longau masnachol yr Iseldiroedd a gwgai'r Mennoniaid arnynt fel moethau'r byd. Roedd un pregethwr yn drwm ei lach ar fenywod a boenai'n fwy am eu parotynod na'r tlodion.
Arloeswr ydoedd mewn technegau peintio.
Mae portread Catrina'n dangos ei allu i gyfuno manylion bychain, argraffiadau aneglur ac effeithiau trawiadol o olau a chysgod.
Roedd Rembrandt hefyd yn wneuthurwr printiau penigamp. Arbrofodd ag ysgythru i gael arlliwiau newydd sbon ac effeithiau mynegiadol.
Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hafan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau
