Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
English
Pawb / Am ddim

Golwg Sain

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 3 Ionawr 2010 2010 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Crazy Gondolier, olew ar gynfas, 1960, ©  Alan Davie

Gondolïwr Gwallgof (1960)
Alan Davie
Olew ar gynfas
© Alan Davie, prynwyd gyda chymorth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams, 2009

Tom Phillips, Lesbia Waltz, screenprint, 1972, copyright Tom Phillips
Tom Phillips, Lesbia Waltz, screenprint, 1972, copyright Tom Phillips
Roger Fenton (1819 - 1869), Melrose Abbey, South Transept, 1856
Roger Fenton (1819 - 1869)
Melrose Abbey, South Transept (1856), salt print

Mae Golwg Sain yn archwilio rhai o’r ffyrdd y dylanwadodd cerddoriaeth a syniadau cerddorol ar y celfyddydau gweledol – ac i’r gwrthwyneb - yn yr 20fed ganrif.

Bydd yr arddangosfa hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (26 Medi-3 Ionawr 2010) yn cynnwys gweithiau celf sy’n seiliedig ar gerddoriaeth, a cherddoriaeth sy’n seiliedig ar weithiau celf, ac yn dangos artistiaid gweledol yn defnyddio syniadau cerddorol neu’n ymateb i ffyrdd o gyfansoddi cerddoriaeth.

Bydd detholiad o gerddoriaeth yn ategu rhai o’r gweithiau celf er mwyn awgrymu ffyrdd gwahanol o edrych a gwrando.

Mae Golwg Sain yn archwilio’r posibilrwydd o ffurfio cysylltiadau newydd rhwng cerddoriaeth a chelfyddyd ym meddwl y gwrandäwr/ gwyliwr.

Yn y mwyafrif o achosion dewis personol y curadur yw’r enghreifftiau cerddorol. Fe’u dewiswyd i adlewyrchu neu ategu’r gweithiau celf yn seiliedig ar yr hyn a wyddwn am chwaeth a diddordebau'r artist.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau penderfynu p’run ai a fyddech chi wedi gwneud yr un cysylltiadau ai peidio!

Er bod hanes hir ac amrywiol ynghlwm wrth ddylanwad cerddoriaeth ar gelfyddyd, a dylanwad celfyddyd ar gerddoriaeth, bydd Golwg Sain yn canolbwyntio ar y cyfnod  pan ddechreuodd artistiaid drafod nodweddion haniaethol cerddoriaeth (20fed ganrif a thu hwnt), a’r gwahanol ddulliau o’u gosod yn uniongyrchol ar arwynebedd eu peintiadau.

Celfyddyd a Cherddoriaeth ers 1900 

Tua diwedd y 19eg ganrif defnyddiai artistiaid fel Whistler iaith cerddoriaeth mewn teitlau fel ‘cyfansoddiad’, ‘symphoni’ a ‘noctwrn’ i ddangos eu diddordeb arbennig mewn lliw a ffurf yn hytrach na chynnwys.

Wrth i gelfyddyd ymbellhau o’r cynrychioladol tuag at iaith newydd haniaethol, yn gynnyddol dechreuodd artistiaid gweledol chwilio am ffyrdd newydd i fynegi eu hunain trwy edrych ar gyfrwng sain.

Wrth i’r 20fed ganrif fynd rhagddi, ffurfiodd artistiaid a cherddorion berthnasau mwy cydweithredol. Mae yna enghreifftiau niferus o artistiaid yn ymdrechu i uno sain ag elfennau gweledol trwy gyfrwng gosodweithiau, gwaith fideo a pherfformiadau.

Mae Golwg Sain yn rhan o flwyddyn cerddoriaeth Amgueddfa Cymru. Fel rhan o raglen Cerdd 09, mae Ymateb yn gyfle i gerddorion a churaduron gydweithio i greu ymateb cerddorol i gasgliadau'r genedl.

Ysbrydolwyd un o'r bandiau, The Victorian English Gentlemans Club, gan Abaty Melrose gan Roger Fenton (yn y llun). Gellir wrando ar y trac yn yr oriel neu ei lawrlwytho am ddim o'n gwefan.