Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Tocynnau o Flaen Llaw yn Unig

Nosweithiau Calan Gaeaf

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 30 Hyd1 Tach 2012, 6 - 9pm

[delwedd: ]

Hwyl Dychrynllyd o Dda!

Feiddiwch chi ymweld â Sain Ffagan am noson arallfydol hwyliog yn llawn hud a lledrith, straeon a braw?

RHAID ARCHEBU TOCYNNAU O FLAEN LLAW, NI FYDD TOCYNNAU AR WERTH AR Y DRWS.

Ers i'r Amgueddfa agor yn 1948, mae staff, ymwelwyr a thrigolion lleol wedi profi digwyddiadau anesboniadwy yn sawl un o adeiladau Sain Ffagan, yn y castell Elisabethaidd a'r gerddi coediog.

Gwisgwch eich dillad mwyaf dychrynllyd er mwyn crwydro'r Amgueddfa liw nos a phrofi noson o olau a thywyllwch yn llawn hud a lledrith.

Efallai y gwnewch chi gwrdd â'r Ladi Wen neu ddod wyneb-yn-wyneb a bwgan wedi'i garcharu mewn drych hud!

Gwrandewch am udo annaearol C?n Annwn - c?n hela'r arallfyd. Os ewch i'r tanerdy, edrychwch o gwmpas am Ysbryd y Crwynwr!

Llinell docynnau ar agor: 029 2087 8440 neu ewch i www.stdavidshallcardiff.co.uk

Prisiau:

Oedolion £8.50

Plant £5.50

Tocyn Teulu (2 Oedolyn + 2 Blentyn) £25

Disgownt 20% i grwpiau 20+

(Ni chaiff y ffi archebu ei ad-dalu)

CYNNIG ARBENNIG WRTH ARCHEBU AR Y FFÔN: *Arbedwch £1 oddi ar bris tocyn ein Nosweithiau Nadolig pan fyddwch yn prynu tocynnau Calan Gaeaf.*  (Nosweithiau Nadolig – 5,6,7 Rhagfyr).