Nosweithiau Calan Gaeaf
Hwyl Dychrynllyd o Dda!
Feiddiwch chi ymweld â Sain Ffagan am noson arallfydol hwyliog yn llawn hud a lledrith, straeon a braw?
RHAID ARCHEBU TOCYNNAU O FLAEN LLAW, NI FYDD TOCYNNAU AR WERTH AR Y DRWS.
Ers i'r Amgueddfa agor yn 1948, mae staff, ymwelwyr a thrigolion lleol wedi profi digwyddiadau anesboniadwy yn sawl un o adeiladau Sain Ffagan, yn y castell Elisabethaidd a'r gerddi coediog.
Gwisgwch eich dillad mwyaf dychrynllyd er mwyn crwydro'r Amgueddfa liw nos a phrofi noson o olau a thywyllwch yn llawn hud a lledrith.
Efallai y gwnewch chi gwrdd â'r Ladi Wen neu ddod wyneb-yn-wyneb a bwgan wedi'i garcharu mewn drych hud!
Gwrandewch am udo annaearol C?n Annwn - c?n hela'r arallfyd. Os ewch i'r tanerdy, edrychwch o gwmpas am Ysbryd y Crwynwr!
Llinell docynnau ar agor: 029 2087 8440 neu ewch i www.stdavidshallcardiff.co.uk
Prisiau:
Oedolion £8.50
Plant £5.50
Tocyn Teulu (2 Oedolyn + 2 Blentyn) £25
Disgownt 20% i grwpiau 20+
(Ni chaiff y ffi archebu ei ad-dalu)
CYNNIG ARBENNIG WRTH ARCHEBU AR Y FFÔN: *Arbedwch £1 oddi ar bris tocyn ein Nosweithiau Nadolig pan fyddwch yn prynu tocynnau Calan Gaeaf.* (Nosweithiau Nadolig – 5,6,7 Rhagfyr).

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau