Teithiau, Sgyrsiau ac Arddangosiadau

Trwy'r flwyddyn!
Dewch i fwynhau un o'n teithiau cerdded, sgyrsiau neu arddangosiadau!
HOLLTI A NADDU LLECHI
Bob dydd, rydyn ni'n cynnig cyfle i'n hymwelwyr weld crefftwyr wrth eu gwaith yn hollti a naddu'r llechi. Rhyfeddwch wrth iddynt dorri llechen o flaen eich llygaid.Yn ogystal a hollti'n grefftus, mae ein crefftwyr hefyd yn creu gweithiau crefft yn galonnau, fframiau lluniau a gwyntyllau cymleth.
Yn ddyddiol
Y LON GOED
Bydd ein saer yn eich tywys ar daith hanner awr i weld y lon goed, gan esbonio pwysigrwydd pren i waith y safle.
Bwciwch wrth gyrraedd
UNA YR INJAN MEWN STEM!
Dewch i weld UNA ein injan Hunslet - wrth iddi godi stem!
Bob dydd Mercher yng Ngorffennaf ac Awst
YR INCLEIN VIVIAN V2
Dewch i weld yr inclein cludo llechi sydd ar waith ym Mhrydain heddiw!
Bob dydd LLun a dydd Mercher trwy Gorffennaf ac Awst

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau