Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Hel Goleuni

Hyd at 24 Ionawr 2010 10 - 5pm
gan Linda Lichtman, USA
gan Holly Sanford, New Zealand

Bydd yr arddangosfa newydd hon o wydr lliw cyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau nes 24 Ionawr 2010.

Yn dilyn arddangosiadau llwyddiannus yn Lerpwl a Pharis, diolch i Ysgol Gwydr Pensaernïol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, bydd yr arddangosfa'n cynnwys gwaith pump o brif artistiaid gwydr benywaidd y byd a chyn fyfyrwyr o Brifysgol Fetropolitan Abertawe.

Mae Hel Goleuni'n rhoi llwyfan i artistiaid benywaidd, sydd wedi'u hyfforddi yn y grefft draddodiadol o lywio gwydr, ac sydd bellach yn defnyddio cyfrwng cyfoes i ddehongli'r dreftadaeth hon.

Mae'r arddangoswyr i gyd yn artistiaid proffesiynol ag arddulliau unigryw sy'n adlewyrchu eu diwylliannau a'u cefndiroedd amrywiol. Mae eu gwaith yn dangos ehangder posibiliadau artistig gwydr addurnol cyfoes.Hel Goleuni yw'r rhaglen gyntaf o arddangosfeydd rhyngwladol i'w cynnal dros gyfnod o flwyddyn gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Yn 2010 bydd Ysgol Gwydr Pensaernïol Cymru, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed.

Mae'r ysgol yn unigryw gan mai hi yw'r unig le yn y byd sy'n darparu cwrs ar wydr sy'n seiliedig ar bensaernïaeth. Mae llawer o brif grefftwyr gwydr y byd wedi dysgu eu sgiliau crefft a dylunio yn Abertawe.

Pawb / Am ddim

iCal Ychwanegu i Outlook / iCal
iCal Ychwanegu i Google Calendar

Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hafan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau