Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Ł2 Oedolion Ł3 i blant / Rhaid archebu lle ymlaen llaw: 01633 423134

Samhain

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 31 Hyd 2011, 6-8pm

[delwedd: Samhain yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

Bydd ellyllon ac ysbrydion yn crwydro’r ddaear heno, a sawl un yn yr Amgueddfa. Allwch chi eu hwynebu?

Beth am esgus bod yn deithiwr Rhufeinig a cheisio croesi’r afon Styx. Gwyliwch, mae pethau erchyll yn cuddio yn y d?r!

Dewch i gyfarfod ein neidr go iawn, Monty. Fydd e ddim yn cnoi ond efallai cewch chi goflaid anferth!

Gwrandewch ar straeon amrywiol – darlleniadau o’r ‘Gruffalo’ neu ‘Room on the Broom’ i blant iau, a rhywbeth i godi braw ar y plant h?n! Beth am wneud ‘monster-mash’ a mynd ag ef adref gyda chi?

Wynebwch eich ofnau yn ein hystafell ofnau, ‘Yr Aberth’, neu dysgwch am ‘Feddyginiaeth Frwnt’ gyda Doctor Severus. Peidiwch mentro’n rhy agos!

Gwyliwch ein sioe ‘Gwallgofrwydd Gwyddoniaeth’ a gwnewch rywbeth i fynd adref gyda chi.

Mae digon o gemau i’w chwarae, a bwyd a diod i’w mwynhau, a cofiwch am y gystadleuaeth wisg ffansi i gloi’r noson, efallai enillwch chi wobr!

Dyma’r lle am noson erchyll o dda i’r teulu cyfan!

Nid yw ‘Yr Aberth’ yn addas i blant bach neu sensitif.

Codir tâl bychan am fwyd a diod.