Rhoi’r gorffennol at ei gilydd
Ydych chi erioed wedi eisiau bod y cyntaf i ddarganfod rhywbeth newydd am Gymru’r canoloesoedd?
Yn 2002, darganfuwyd llawer o grochenwaith o’r 13 a’r 14 ganrif yn ystod gwaith cloddio yn Ysgol y Gadeirlan, Llandaf.
Darnau o jygiau gwydrog, potiau coginio a theils to oeddynt yn wreiddiol. Fe’u taflwyd i ffwrdd wedi iddynt blygu neu dorri wrth eu tanio mewn odyn gyfagos.
Nid yw nifer o’r darnau wedi’u gosod yn ôl at ei gilydd erioed. Bydd cwblhau’r pos jig-so anferth hwn a chanfod teilchion sy’n ffitio gyda’i gilydd yn ein galluogi i ail-greu’r potiau a wnaed yn Llandaf, ac a werthwyd i gartrefi Caerdydd a Bro Morgannwg yn y canoloesoedd.
Y llynedd, helpodd nifer o ymwelwyr ni drefnu hanner o grochenwaith Llandaf, ac fe allwch weld beth digwyiddodd ar flog Wythnos Archeoleg Genedlaethol 2008. Nawr rydy ni angen eich help i drefnu yr ail hanner!
Cyfle prin i ymuno ag archeolegwyr yr amgueddfa a helpu gyda’r broses o ail-greu esiamplau o grefft y crochenydd canoloesol.
Rhan o W?l Archeoleg Prydain.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau