Cyfrinachau'r Ardd Rufeinig
Darganfod y triniaethau meddyginiaethol a harddwch y gellir eu creu o'r Ardd rufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.
Yn ein gardd Rufeinig brydferth mae'r holl gynhwysion ar gyfer gwneud hufennau ac elïau gwych. Roedd y planhigion, blodau a pherlysiau'n cael eu defnyddio gan y Rhufeiniaid i wella clwyfau ac fel triniaethau harddwch.
Nid oedd y Rhufeiniaid yn defnyddio sebon i ymolchi. Roedd yn well ganddynt ddefnyddio olew olewydd i fathio a sebonllys i olchi eu gwallt a'u dillad.
Defnyddid rhosmari mewn olew i wella cymalau poenus a hefyd wedi'i ferwi mewn d?r i wneud diod egni.
Dewch i weld ychydig o archeoleg arbrofol wrth i ni geisio ail-greu rhai o'r triniaethau hynafol hyn. Gallwch fynd â rhai ohonynt adref gyda chi.
Gweithgareddau plant drwy'r dydd, gan gynnwys helfa bwystfilod bach.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





