Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dim ffasiwn beth â chymdeithas
Portsmouth: John Payne, aged 12, with two friends and his pigeon, Chequer, 26 April 1974
Arts Council Collection, Southbank Centre
Copyright the artist, 1974
Beauty Contest, Southport, 1967
British Council Collection, London
Copyright the artist, 2007
Sikh Funeral (Handsworth, Birmingham), 1984
Arts Council Collection, Southbank Centre
Copyright the artist, 2007
Crouched Man, DHSS waiting room, 1984
Arts Council Collection, Southbank Centre
Copyright the artist, 2007
Ffotograffiaeth ym Mhrydain 1967-1987
O’r 1960au hwyr nes y 1980au hwyr roedd cymdeithas Prydain mewn cyflwr o derfysg a newid.
Roedd newidiadau sylfaenol yn strwythur ein cymdeithas yn sgil dad-ddiwydiannu, dyfodiad Thatcheriaeth, streic y glowyr a’r ymladd yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Dim ffasiwn beth â chymdeithas yn edrych ar gyfnod o ddatblygiad trawiadol yn ffotograffiaeth Prydain gan dystio i’r amseroedd hyn a sut cawsant eu dogfennu gan ffotograffwyr yr oes.
Mae enw’r arddangosfa’n dod o sylw enwog, Margaret Thatcher: "...cymdeithas? Does dim ffasiwn beth! Mae dynion a menywod unigol ac mae teuluoedd."
Gan ddechrau ar ddiwedd y 1960au pan oedd Celfyddyd Bop wedi cadarnhau safle ffotograffiaeth mewn diwylliant cyfoes, cychwynnodd Cyngor Celfyddydau Prydain gomisiynu a chasglu ffotograffiaeth ddogfennnol oedd yn dal ysbryd yr amser cyfnewidiol hwnnw.
Roedd wedi parhau â'r broses drwy gasglu ffotograffiaeth liw, newydd y 1980au cynnar gan ddangos eu cyd-destun cymdeithasol, unigryw.
Mae'r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 4 Gorffennaf hyd at 4 Hydref 2009 ac yn cynnwys 100 o ffotograffau a 33 o ffotograffwyr dogfennol megis Keith Arnatt, Victor Burgin, Peter Fraser, Paul Graham, Brian Griffin, Chris Killip, Martin Parr, Tony Ray-Jones, Chris Steele-Perkins, Graham Smith a Homer Sykes.
Mae'r arddangosfa wedi'i rhannu'n amseryddol yn chwe thema sy'n adlewyrchu agweddau gwrthgyferbyniol o'r gymdeithas yn y cyfnod hwnnw.
Mae Carnifal cymdeithasol (1967-75) yn dangos pobl Prydain o bob dosbarth wrthi'n chwarae mewn cystadleuaethau prydferthwch glan y môr, dawnsfeydd bedwen haf a rasys Ascot.
Mae Llun a lle (1973-77) yn gofnod o'r gwahaniaethau yn ein cymdeithas yn y 1970au gan gynnwys gweithwyr diwydiannol a chynrychiolwyr diwylliant y bobl ifainc.
Mae Cenedl, cymuned, cynefin (1972-80) yn archwilio ymdeimlad y genedl o le a pherthyn yn ystod y cyfnod hwn gan ddogfennu tensiynau hil gyda graffiti hiliol y Ffrynt Cenedlaethol ar un llaw ac ar y llall delwedd o fam Asiaidd, falch yn ei chartref yn Birmingham.
Mae wyneb cyfnewidiol cymdeithas Prydain wedi'i ddal yn Darlunio'r argyfwng dinesig (1976-81) gan gynnwys tai wedi'u haddurno â baneri Jac yr Undeb yn Jiwbilî Arian y Frenhines a menywod yn ymgyrchu yn erbyn trais domestig. Mae Gwastraffdiroedd (1976-82) yn olwg lem ar newid diwydiannol ac olion marw cymunedau a fu unwaith yn fywiog.
Yn olaf mae Cymdeithas liwgar (1984-87) yn olwg leddf a llon ar fywyd Prydain yn oes Thatcher gan gynnwys torheulwyr ar lan y môr sy'n ymladd am gŵn poeth a llwydni maith stafell aros Nawdd Cymdeithasol.
Curadwyd Dim ffasiwn beth â chymdeithas gan David Alan Mellor, Athro Hanes Celf Prifysgol Sussex, ac am y tro cyntaf mae'n amlinellu datblygiad ffotograffiaeth ym Mhrydain yn ystod y cyfnod hwn.
Dyma'r tro cyntaf mae Casgliad y Cyngor Prydeinig ac un Cyngor y Celfyddydau wedi cydweithio.
Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hafan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau
