Rhufeiniaid a Brythoniaid
Dros y penwythnos bydd y pentref Celtaidd yn dod yn fyw gan ddynion, menywod a phlant sy'n rhan o'r gr?p ail-greu Y Ficws.
Dewch i gwrdd â theuluoedd yn y pentref sy'n byw yn yr Oes Haearn hwyr.
Y tu allan i'r palisâd mae llengfilwyr a milwyr atodol y fyddin Rufeinig yn cadw llygad barcud am drafferth.
Ym Mhrydain y ganrif gyntaf dim ond darnau arian ffug a gynhyrchwyd - oes bathdy anghyfreithlon ar waith rywle yn y pentref? Fydd y Rhufeiniaid yn ei ddarganfod?
Dysgwch am fwyd a dillad y cyfnod a dewch i weld crefftwyr gwahanol wrth eu gwaith.
All gof medrus, ifanc y Ficws greu gwrthrych haearn yn ystod y penwythnos gan ddechrau gyda'r mwyn? Sawl darn o grochenwaith fydd yn gyfan ar ôl cael eu tanio yn y goelcerth? Ewch i'r pentref i gael gwybod.
Ym maes Cilewent dysgwch sut mae milwyr Prydain a Rhufain yn ymwisgo at y gad a defnyddio eu harfau. Profwch y cyffro o weld milwyr yn ymladd yn ffyrnig ond nid o ddifrif.
Rhan o W?l Archeoleg Prydain.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau