Hyd y Ffliwt
Cewch weld ffliwtiau Neolithig a Chanoloesol yn cael eu hail-greu a'u canu yn y Pentref Celtaidd, Sain Fagan.
I ddathlu Cerdd09 yn Amgueddfa Cymru, bydd y crefftwr Gareth Riseborough yn ail-greu dwy ffliwt asgwrn o’n casgliadau Archeoleg.
Yr offeryn cerdd cynharaf o Gymru?
Ym 1971 darganfuwyd asgwrn dafad ac ynddo tri thwll mewn beddrod Oes y Cerrig ym Mhenywyrlod yn y canolbarth.
Dywed rhai ei fod yn asgwrn a adawyd ar ôl gan alarwyr 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ond barn eraill yw mai asgwrn wedi’i gnoi gan gi ydyw. Nid yw’r archeolegwyr yn cytuno am hyn, felly bydd Gareth yn creu atgynhyrchiad ac yn ceisio chwarae alaw arno.
A fydd ei chwiban yn ein galluogi i glywed cerddoriaeth y Gymru gynnar? Neu a fydd yn gwrthbrofi’r ddamcaniaeth yn llwyr? Ymunwch â ni i weld.
Ffliwt hynod
Darganfuwyd y ffliwt ganoloesol sydd ar ddangos yn yr oriel Gwreiddiau mewn ffos yn y Castell Gwyn, Llandeilo Gresynni. Gwnaed y ffliwt o asgwrn carw, sy’n ei gwneud yn anghyffredin iawn, gan mai dim ond y pwysigion oedd â’r hawl i ladd ceirw yn y cyfnod hynny - esgyrn defaid ddefnyddiai’r tlodion i wneud eu ffliwtiau hwythau.
Mae’r ffliwt wedi’i llunio’n gelfydd ac wedi’i haddurno mewn patrwm o ddotiau, sydd hefyd yn beth prin iawn - o blith y 120 o ffliwtiau canoloesol ym Mhrydain, dyma’r un mwyaf addurnedig. Mae’n rhaid ei bod wedi bod yn eiddo i rywun pwysig. Mae’r ffliwt hon wedi bod yn ddistaw am dros 700 mlynedd.
A fydd Gareth yn llwyddo rhoi llais iddi unwaith eto? Gyda llawer o ddiolch i Dr Helen Leaf am ei chymorth a’i chyngor wrth gynllunio’r project hwn.
Rhan o W?l Archeoleg Prydain.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau