Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gwrthryfeloedd Celfyddydol: Celf Ffrainc ac Argraffiadaeth

Hyd at 31 Ionawr 2010 (Nodyn. Ar agor Mawrth–Sul a Dydd Llun Gŵyl Banc)
San Giorgio Maggiore yn y Gwyll
Monet, Claude (1840-1926)
San Giorgio Maggiore yn y Gwyll
(1908)
Paul Cézanne (1839-1906), Bywyd llonydd gyda thebot, 1902-1906
Cézanne, Paul (1839-1906)
Bywyd Llonydd a Thebot
(1902-1906)
Edgar Degas (1834-1917), Dawnswraig wedi Gwisgo, astudiaeth (1879-1880)
Edgar Degas (1834-1917)
Dawnswraig wedi Gwisgo, astudiaeth
(1879-1880)

 

Mae Gwrthryfeloedd Celfyddydol yn amlygu dyfeisgarwch yr artistiaid wnaeth mynd yn erbyn egwyddorion llym celf academaidd, yn ogystal â’r sefydliad boliticaidd er mwyn newid cyfeiriad hanes celf.

 

Mae ffocws yr arddangosfa hon yn canolbwyntio ar ddau genhadledd o artisitiaid – Realyddion canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac Argraffiadwyr hwyrach y ganrif – ac yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 31 Ionawr 2010.

 

Mae’r gweithiau sy’n cael ei arddangos yn cynnwys 'Lilïau dŵr', ‘Eglwys Gadeiriol Rouen’ a ‘San Giorgio Maggiore yn y Gwyll’ gan Monet, ‘Bywyd Llonydd a Thebot’ gan Cezanne, cerflun yn gynnwys ‘Y Gusan’ gan Rodin ac ‘Dawnswraig wedi Gwisgo, astudieath' gan Degas.

 

Roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Ffrainc yn amser chwyldro mewn gwleidyddiaeth a chelf. Roedd y genedl yn cloffi rhwng brenhinoedd, ymerawdwyr ac arlywyddion, a doedd celf erioed wedi bod mor ddadleuol neu fentrus.

 

Roedd Gwladwriaeth Ffrainc yn rheoli'r prif sefydliadau celf cyhoeddus ac yn aml yn gwahardd delweddau. Gallai gyrfa artist ddibynnu ar gael croeso yn arddangosfeydd Salon Paris a oedd yn cael eu rhedeg gan y wladwriaeth. Roedden nhw'n gorfodi egwyddorion academaidd llym ar y cyfranwyr.

 

Felly, gallai techneg newydd, chwyldroadol fod yr un mor heriol i'r awdurdodau cyhoeddus â phwnc y gelf ei hun.

 

Ym 1874 roedd grwˆp herfeiddiol o artistiaid wedi cymryd safiad bwriadol. Roedd eu pynciau cyfoes, lliwiau llachar ac 'argraffiadau' anorffenedig braidd wedi cael eu gwrthod yn gyson gan y pwyllgor dethol academaidd. Ond unwaith dangoswyd y gweithiau mewn arddangosfa breifat a drefnwyd gan yr artistiaid ei hun crewyd stŵr a chyffro.

 

Yn y diwedd roedd dyfeisgarwch y gweithredwyr artistig hyn yn ddigon i argyhoeddi hyd yn oed y beirniaid mwyaf traddodiadol. Ac erbyn hyn roedd y beirniaid yn wynebu'r to newydd – yr Argraffiadwyr.

 

Daeth y nifer gynyddol o fasnachwyr preifat a chasglwyr celf yn llawer fwy o ddylanwad ar yrfa’r artistiaid.

 

Fe wnaeth craffter Gwendoline a Margaret Davies yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif sicrhau bod y fath weithiau celf chwyldroadol i’w gweld heddiw yng Nghymru.

Pawb / Am ddim

iCal Ychwanegu i Outlook / iCal
iCal Ychwanegu i Google Calendar

Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hafan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau