Diane Arbus
"Mae ffotograff yn gyfrinach am gyfrinach. Mwyaf mae’n ei ddweud, lleiaf sy’n hysbys." Diane Arbus
Mae un o brif arddangosfeydd celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2009 yn amlygu gwaith y ffotograffydd enwog o Efrog Newydd, Diane Arbus (1923 -1971), a weddnewidiodd y byd ffotograffiaeth.
Diane Arbus, sy’n cynnwys 69 llun du a gwyn, gan gynnwys y portffolio pwysig a phrin o ddeg o hen brintiau: Blwch o Ddeg, 1971, yw un o’r casgliadau gorau sy’n bodoli o waith Arbus. Arddangosir detholiad eang o’r lluniau hyn yn yr Amgueddfa o 9 Mai tan 31 Awst 2009.
Yn ystod 2009, bydd 18 o amgueddfeydd ac orielau ar draws y DU yn arddangos gweithiau o gasgliad ARTIST ROOMS a grëwyd gan y deliwr a’r casglwr, Anthony d’Offay, ac a dderbyniwyd gan y genedl ym mis Chwefror 2008.
Diane Arbus fydd un o’r arddangosfeydd cyntaf ar daith o’r casgliad yma.
Amcan Anthony d’Offay drwy greu Artist Rooms oedd neilltuo ystafelloedd penodol ar gyfer artistiaid arbennig, Diane Arbus yn yr achos hwn.
Gan grynhoi America’r 1950au a’r 1960au, mae Arbus yn enwog am bortreadau o noethlymunwyr, perfformwyr syrcas, teuluoedd dosbarth canol a selotiaid.
Yn aml, bydd ei lluniau pwerus, ac weithiau dadleuol, yn dangos pethau cyfarwydd fel pethau od a phethau od neu egsotig fel pethau cyfarwydd.
Diolch i’r weledigaeth unigryw hon a’i gallu i ymgysylltu â’r bobl yn eu lluniau mewn ffordd mor ddigyfaddawd, Arbus yw un o ffotograffwyr pwysicaf a mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.
Hwn yw’r tro cyntaf i gasgliad cenedlaethol gael ei rhannu a’i harddangos ar yr un pryd ar draws y DU, ac ond yn bosibl drwy haelioni’r Gronfa Gelf ac yn yr Alban, Llywodraeth yr Alban. Orielau Cenedlaethol yr Alban a’r Tate sydd berchen ac yn rheoli ARTIST ROOMS ar ran y genedl.
Dyfeisiwyd ARTIST ROOMS on Tour with The Art Fund er mwyn cymryd yr arddangosfeydd y tu hwnt i berchnogion y casgliad, Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban, ac i gyrraedd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd ar draws y wlad.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau