Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / £15 / Archebwch eich tocynnau o flaen llaw

Sioe Ffasiwn gan Ysgol Celfyddydau Gorllewin Cymru

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 25 Meh 2010, 7pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

[delwedd: Enillydd cystadleuaeth 2008 ar y thema 'Cwtsh'- Het gan Anna O'Neill]

Enillydd cystadleuaeth 2008 ar y thema 'Cwtsh'- Het gan Anna O'Neill

[delwedd: ]

Bydd myfyrwyr graddedig mewn ffasiwn a thecstilau yn Ysgol Gelfyddydau Gorllewin Cymru Coleg Sir Gâr yn troi pennau yn Amgueddfa Wlân Cymru gyda finale ffasiwn diwedd blwyddyn i’w gyflwyno gan Huw Rees o S4C.

Mae’r myfyrwyr sy’n cwblhau eu graddau anrhydedd y mis Gorffennaf hwn yn paratoi ar gyfer eu sioe lwyfan ddiwedd blwyddyn fydd yn dadorchuddio nifer o ddyluniadau.

Bydd y digwyddiad yn arddangos casgliadau ysbrydoledig gan bob myfyriwr, wedi’u hymchwilio, eu dylunio a’u creu ar gyfer y sioe a’u gosod ar y llwyfan gan ddefnyddio modelau proffesiynol.

Bydd y themâu a’r steiliau’n unigol i bob dylunydd ac mae’r sioe yn addo ystod gyfan o ddyluniadau arloesol a chyffrous.

Bydd y sioe yn digwydd ar ddydd Gwener 25 Mehefin o 7pm. I archebu tocynnau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch a'r Adran Ffasiwn ar 01554 748208.

Unwaith eto mae’r sioe yn addo digwyddiad proffesiynol sy’n cynnig cipolwg ar greadigrwydd a  sgil dylunwyr y dyfodol.

Mae’r adran ffasiwn a thecstilau wedi gweld nifer o fyfyrwyr yn ennill llwyddiant yn y diwydiant; gan redeg eu labeli dylunio eu hunain a gweithio i rai o ddylunwyr pennaf y wlad.

Tocynnau £15 (gyda croeso canape)