Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Gwyddor Gerddorol

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 31 Mai 2009 2009

[delwedd: Simon]

[delwedd: Laser Harmonics]

Beth yw’r s?n ’na?

 

Dysgwch am y ffordd rydym ni'n clywed cerddoriaeth pryd fydd Mân-ddirgryniadau, tonfeddi gwallgof a phatrymau sain ffynci yn hawlio’r sylw yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y mis hwn.

 

Mae'r arddangosfa Gwyddor Gerddorol ar y cyd gyda Techniquest fydd yn digwydd o 22 Mawrth i 31 Mai.

 

Mae’r arddangosiad yn archwiliad rhyngweithiol o sut mae sain yn cael ei greu, ei drosglwyddo a’i dderbyn, ac mae’n debygol o syfrdanu torfeydd yn Abertawe a dal sylw ymwelwyr wrth eu tywys i fyd rhyfeddol sain.

 

Gyda chymorth naw arddangosfa arbennig, bydd modd i ymwelwyr brofi eu Tannau Lleisiol, mynd i’r afael â Harmoniau Laser, mwydro’ch ymennydd gyda Simon, chwarae’r Seiloffon Craidd Craig a darganfod y Drwm Curiad Calon. Gwelwch sioe sleidiau o'r naw arddangosfa sydd yn egluro sut mae nhw'n eu weithio.

 

Gallwch creu seiniau a'u gweld nhw'n ymddangos o flaen eich llygaid. Dysgwch sut i reoli sain drwy newid cywair ac uchder, a sut mae gwyddoniaeth yn gallu creu gwahanol ffyrdd i ddal sain a'i hailgynhyrchu.

Mae Gwyddor Gerddorol yn gyfraniad cyntaf yr Amgueddfa tuag at ei rhaglen o ddigwyddiadau ar themau Cerdd ar gyfer 2009.