Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Oedolion / £3 / Rhaid archebu ymlaen llaw: (01633) 423134

Sgwrs gyda'r hwyr: Terfysg ar y gorwel

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 18 Meh 2009, 6pm-8pm

[delwedd: ]

[delwedd: Helynt ddoe a heddiw]

Mae tensiwn yn yr awyr, cymysgedd o ofn ac adrenalin…

Gweiddir bonllefau rhyfel a bygythiadau…

 

Daw rhuthr yr ymosodiad, a s?n tariannau’n taro…

 

2000 o flynyddoedd yn ôl byddai hyn wedi bod yn rhan o swydd milwr Rhufeinig. Heddiw, mae’n rhan o brofiad pobl sy’n ymwneud â therfysg a phrotestiadau ledled y byd.

 

Bydd 'Terfysg ar y gorwel', a gyflwynir gan Dai Price, Swyddog Addysg Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, yn dangos sut y defnyddid offer a thactegau a ysbrydolwyd gan y Rhufeiniaid gan heddlu modern.

 

Bydd arddangosiad byw gan filwr Rhufeinig a heddwas gwrthderfysg yn gwneud hwn yn ddigwyddiad unigryw na ellir ei golli, yn rhedeg ar y cyd gyda Big Pit.

 

Bydd y noson yn cynnwys trafodaeth â phanel o arbenigwyr, yn cynnwys awdurdod ar filwriaeth Rhufeinig, cyn-heddwas a

phrotestiwr o ochr arall y darian, a fydd yn siarad am eu profiadau

ac yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa.