Sgwrs gyda'r hwyr: Terfysg ar y gorwel
Mae tensiwn yn yr awyr, cymysgedd o ofn ac adrenalin…
Gweiddir bonllefau rhyfel a bygythiadau…
Daw rhuthr yr ymosodiad, a s?n tariannau’n taro…
2000 o flynyddoedd yn ôl byddai hyn wedi bod yn rhan o swydd milwr Rhufeinig. Heddiw, mae’n rhan o brofiad pobl sy’n ymwneud â therfysg a phrotestiadau ledled y byd.
Bydd 'Terfysg ar y gorwel', a gyflwynir gan Dai Price, Swyddog Addysg Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, yn dangos sut y defnyddid offer a thactegau a ysbrydolwyd gan y Rhufeiniaid gan heddlu modern.
Bydd arddangosiad byw gan filwr Rhufeinig a heddwas gwrthderfysg yn gwneud hwn yn ddigwyddiad unigryw na ellir ei golli, yn rhedeg ar y cyd gyda Big Pit.
Bydd y noson yn cynnwys trafodaeth â phanel o arbenigwyr, yn cynnwys awdurdod ar filwriaeth Rhufeinig, cyn-heddwas a
phrotestiwr o ochr arall y darian, a fydd yn siarad am eu profiadau
ac yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





