Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Gwledd Rufeinig

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 4 Mai 2009, 11am - 4pm
Gwledd Rufeinig
Gwledd Rufeinig

 

Bwyd yw ein tir cyffredin, profiad sy’n gyffredin i bawb” (James Beard)

 

Ydy bwyd modern yn rhy ddiflas? 

 

Oes rhywbeth bach ar goll o’ch swper chi? 

 

Yna dewch i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar 4 Mai i fod yn rhan o gynulleidfa ein sioe bwyd Rhufeinig (12.30pm a 2.30pm) “Ready, Steady, Coque”.

 

Bydd rysetiau’r rhifyn arbennig hwn o’r sioe yn eich dysgu i baratoi prydau blasus a hawdd i’w gwneud o gynhwysion cyffredin o’ch cwpwrdd, a fydd hefyd yn ychwanegu at eich ‘pump y dydd’! 

 

Ydych chi angen ymarfer eich moesgarwch hefyd? Yna cymerwch ran yn ein cinio awyr agored lle bydd cymeriadau Rhufeinig yn dangos i chi sut yr arferai’r boneddigion ddiddanu eu gwesteion, a’r bwyd yr oeddent yn ei fwyta (11.30am a 1.30pm).

 

Ymlaciwch ar ein triclinium (ardal bwyta awyr agored). Gallwch ryngweithio gyda’r cymeriadau, blasu eu bwyd a hyd yn oed cael eich gweini gan eu caethweision.