Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Vexations

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 20 Meh 2009, 7am - hanner nos (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Erik Satie
Erik Satie
John Cage
John Cage
John Cale
John Cale
Cerdd 09

Gan ddibynnu ar eich safbwynt, mae’r darn Vexations yn naill ai un o’r pwysicaf neu’r rhyfeddaf yn hanes cerddoriaeth.

Dyma gyfle prin i benderfynu drosoch chi’ch hun yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 20 Mehefin o 7am ymlaen gyda pherfformiad llawn o’r darn byr ar gyfer yr allweddellau, a gyfansoddwyd tua 1893 gan y cyfansoddwr Ffrengig Erik Satie (1866-1925).

Arhoswch i glywed yr 840 o ailadroddiadau (tua 18 awr) neu piciwch i mewn ac allan yn ystod y perfformiad.

Cynhelir y perfformiad yn ystod blwyddyn gerddoriaeth Amgueddfa Cymru, gellir disgrifio Vexations fel darn o gelfyddyd syniadol, ac mae e wedi sefydlu ei hun fel un o gyfansoddiadau mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif.

Mae’r darn wedi ysbrydoli cyfansoddwyr arbrofol a minimol fel John Cage a La Monte Young i ddefnyddio ffurfiau annatblygiadol a chan ragweld y genres a adwaenir heddiw fel cerddoriaeth ambient a ‘chill out’.

Darn cymhellgar ac anniffiniadwy, dywedir bod natur ailadroddus y darn wedi creu amrywiaeth o wahanol gyflyrau ym meddyliau perfformwyr, o ddiflastod llethol i ganolbwyntio dwys, myfyrio a rhith-weld. Mae Satie’n nodi y dylai chwaraewr y darn baratoi mewn distawrwydd ymlaen llaw gyda ‘llonyddwch difrifol’.

Ysbrydolir perfformiad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan ddau ddigwyddiad: pen-blwydd y perfformiad cyntaf o Vexations yng Nghymru (ac un o’r perfformiadau cynharaf o’r darn sydd wedi’i ddogfennu yn y byd) a gynhaliwyd ym Mangor ym 1969; a phenodiad John Cale i gynrychioli Cymru yn y Venice Biennale ym Mehefin 2009 (www.walesvenicebiennale.com).

Roedd John Cale, un o aelodau sylfaenol The Velvet Underground, yn un o ddeuddeg cerddor a gymerodd ran yn y perfformiad cyhoeddus cyntaf o Vexations yn y Pocket Theatre yn Efrog Newydd ym Medi 1963.

Y cyfansoddwr John Cage, un o gefnogwyr cynnar cerddoriaeth a syniadau Satie, drefnodd y perfformiad, sydd bellach bron mor chwedlonol â Vexations ei hun.

Cynhaliwyd perfformiad Bangor yn Chwefror 1969 yn ffenest siop gerddoriaeth Cranes. Cymerodd gr?p o 10 myfyriwr a’u hathro, Reginald Smith Brindle, 21 awr i’w gwblhau.

Heddiw, 40 mlynedd ar ôl iddynt eistedd i’w chwarae am y tro cyntaf, bydd chwech o’r deg gwreiddiol yn cymryd rhan yn y perfformiad yng Nghaerdydd.

Bydd Mike Tooby a Bryony Dawkes yn trafod Erik Satie, Vexations a’i ddylanwadau am 1.05pm a 7.05pm.