Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Pop Peth – arddangosfa cerddoriaeth bop

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 10 Ionawr 2010 2010
Pop Peth
Pop Peth

Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn gwahodd chwe Churadur Gwadd i greu arddangosfa gyffrous, wahanol a newydd ar gerddoriaeth bop.

Byddant yn dewis gwrthrychau sy’n bwysig iddyn nhw o blith eu casgliad personol neu o gasgliad yr amgueddfa, a fydd yn amrywio o gloriau recordiau, offerynnau a chaneuon, i grysau t, fideos ac i-pods.

Eu harddangosfa nhw fydd Pop Peth, nid un yr Amgueddfa, a gallwch ei gweld yn Oriel 1 o 1 Awst i 10 Ionawr 2010. Mae'n rhan or thema Cerdd 09.

Mae’n anelu at gyfleu’r berthynas unigryw rhwng person, cerddoriaeth, lle ac amser, ac adlewyrchu’r dylanwad mae diwylliant poblogaidd yn ei gael ar fywydau pob un ohonom ni.

Curaduron gwadd:

Gari Melville – casglwr ac arbenigwr ar ganu pop yng Nghymru

Lowri Johnston a Leusa Fflur – golygyddion ffansin Dim Ffwdanu

Ashli Todd – sy’n helpu rhedeg siop deuluol Spillers Records

John Griffiths a Kevs Ford – cerddorion gyda’r band dub reggae Llwybr Llaethog