Cyngerdd Billy Bragg

Ar 5 Mehefin bydd Billy Bragg ym Mlaenafon yn lansio ei daith o amgylch Cymru i nodi chwarter canrif ers Streic y Glowyr 1984/85 a bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn estyn croeso i'r digwyddiad hwn.
Yn ogystal â pherfformio ambell gân, bydd ef a holwr gwadd David Williams yn trafod dylanwad streic y glowyr ar ei fywyd a'i gerddoriaeth.
Yn wrthryfelwr ym mhob ystyr, mae Bragg yn cael ei nabod orau am ei eiriau llawn angerdd a’i ganeuon serch.
Mae ei fywyd yn ymgrynghoi cymaint am ei genhedledd.
Yn ddiddanwr unigryw, rebel boblogaidd ac ymgyrchydd di-ofn, mae Bragg yn eicon bop o’r adain chwith.
Mewn noson o gerddoriaeth a thrafod ynhlyn a’r dyn tu ol i’r rebel, fydd Bragg yn son am yr hyn wnaeth ei ysgogi i fod mor fywiog yn ystod Streic y Glowyr 1984/85, a sut wnaeth y cyfnod hwn effeithio ar ei farn a’i waith.
Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





