Drwy Fy Llygaid: Streic y Glowyr 1984/5

Dewch i weld arddangosfa drawiadol o ffotograffau a dynnwyd yn ystod Streic y Glowyr 1984/85.
Bu Mike Thompson, aeold o'r NUM, yn gweithio yng Nglofa Fernhill ac wedyn yng Ngweithfeydd Golosg Nantgarw a Chwm cyn iddo ddechrau teithio o gwmpas Cymru a Lloegr gan dynnu ffotograffau yn ystod y streic.
Mae’r arddangosfa rymus a phersonol hon yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn edrych ar y streic o ochr NUM y llinellau piced.
Mae Drwy Fy Lygaid yn rhan o nodiad chwarter canrif Streic y Glowyr gan yr Amgueddfa drwy gydol 2009.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





