Newid yn yr hinsawdd – Beth sy’n digwydd?
[delwedd: Llifogydd yn Aberfan - Jeff Morgan, photolibrarywales.com]
Llifogydd yn Aberfan - Jeff Morgan, photolibrarywales.com
[delwedd: ]
[delwedd: Gwarback Solar - G24 Innovations www.g24i.com]
Gwarback Solar - G24 Innovations www.g24i.com
Ni sy’n newid y blaned. Dysgwch y gwirionedd am newid yn yr hinsawdd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Nid oes gan brif wyddonwyr y byd unrhyw amheuaeth bod gweithgarwch dynol yn newid ein hinsawdd.
Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd mae’r dystiolaeth yn ‘ddiamwys’ mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol am y cynhesu sydd wedi digwydd ers dechrau’r oes ddiwydiannol.
Mae’r arddangosfa hon yn ateb y prif gwestiynau am newid yn yr hinsawdd:
- Sut ydyn ni’n gwybod mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol?
- Oni fydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus ac yn fwy heulog ym Mhrydain?
- Ydy hi’n rhy hwyr i newid?
- Does dim pwynt i fi wneud dim nag oes?
- Beth yw’r pwynt i ni newid os na fydd Tsieina ac America’n newid?
- Beth yw newid peryglus yn yr hinsawdd?
- Rhy boeth – rhy gyflym! Ydy’r peth mor bwysig â hynny?
Os oes gennych gwestiynau eraill yr hoffech eu holi, postiwch nhw ar ein blog ar y we.
Newid yn yr hinsawdd yw’r prif fygythiad i fywyd ar ein planed. Dysgwch beth yw’r goblygiadau i Gymru, y Byd a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth.
Y cam cyntaf yw deall newid yn yr hinsawdd.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau