Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Newid yn yr hinsawdd – Beth sy’n digwydd?

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Hyd at 12 Gorffenaf 2009 2009, 10am – 5pm
Llifogydd yn Aberfan - Jeff Morgan, photolibrarywales.com
Llifogydd yn Aberfan - Jeff Morgan, photolibrarywales.com
Gwarback Solar - G24 Innovations www.g24i.com
Gwarback Solar - G24 Innovations www.g24i.com

Ni sy’n newid y blaned. Dysgwch y gwirionedd am newid yn yr hinsawdd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Nid oes gan brif wyddonwyr y byd unrhyw amheuaeth bod gweithgarwch dynol yn newid ein hinsawdd.

Yn ôl y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd mae’r dystiolaeth yn ‘ddiamwys’ mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol am y cynhesu sydd wedi digwydd ers dechrau’r oes ddiwydiannol.

Mae’r arddangosfa hon yn ateb y prif gwestiynau am newid yn yr hinsawdd:

  • Sut ydyn ni’n gwybod mai gweithgarwch dynol sy’n gyfrifol?
  • Oni fydd newid yn yr hinsawdd yn gwneud bywyd yn fwy cyfforddus ac yn fwy heulog ym Mhrydain?
  • Ydy hi’n rhy hwyr i newid?
  • Does dim pwynt i fi wneud dim nag oes?
  • Beth yw’r pwynt i ni newid os na fydd Tsieina ac America’n newid?
  • Beth yw newid peryglus yn yr hinsawdd?
  • Rhy boeth – rhy gyflym! Ydy’r peth mor bwysig â hynny?

Os oes gennych gwestiynau eraill yr hoffech eu holi, postiwch nhw ar ein blog ar y we.

Newid yn yr hinsawdd yw’r prif fygythiad i fywyd ar ein planed. Dysgwch beth yw’r goblygiadau i Gymru, y Byd a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth.

Y cam cyntaf yw deall newid yn yr hinsawdd.