Dinorwig '69 - Arddangosfa Cofio'r Cau
Yn 1969, bu Chwarel Dinorwig gau. Collodd cannoedd o charwelwyr eu gwaith a bu i'r gymdeithas newid am byth.
Byddwn yn cofio'r amser yma yn yr arddangosfa ynghyd a nifer o weithgareddau trwy'r flwyddyn.
Yn agor ar 1 Gorffennaf, bydd Dinorwig ’69 - Cofio’r Cau a’r effaith a gafodd hyn ar bentref Llanberis a’r gymdogaeth.
Collodd 350 o ddynion eu gwaith, ac yn sgil hyn newidiodd cymuned chwarelyddol a ffordd o fyw a oedd wedi bodoli ers y 1780au am byth.
Yn rhoi hanes y cau yn ei gyd-destun, mae’r arddangosfa yma yna myfyrio ar y bennod bwysig hon mewn hanes, ac yn edrych yn fwy manwl ar yr effaith ar y gymuned a'i phobl.
Ganrif ynghynt, byddai cau’r chwarel wedi bod yn annirnadwy.
Roedd Chwarel Dinorwig yn un o’r chwareli llechi mwyaf yn y byd a, gyda Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gallai gynhyrchu mwy o lechi toi mewn blwyddyn na’r holl chwareli llechi eraill yn y byd gyda’i gilydd.
Cafodd y tawelwch dieithr a ddaeth i Ddinorwig ym mis Awst 1969 effaith enfawr a hirbarhaol ar yr ardal.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys mur o 350 o ‘dalis’, sy’n cynrychioli’r sgwariau pres a ddefnyddid gan y chwarelwyr i ddangos eu bod yn y gwaith ond yn fan hyn yn arwyddocaol o faint o ddynion a gollodd eu swyddi, ac hefyd catalog arwerthiant gwreiddiol ar gyfer y Chwarel a gweithdai Gilfach Ddu.
Mae'r ffilm ‘The End of the Line’, a wnaed gan y BBC ym 1969 adeg yr arwerthiant, yn dangos y gwrthrychau’n cael eu gwerthu ac hefyd amrywiaeth o storïau digidol, gan bobl leol am eu hatgofion o’r cyfnod, a gynhyrchwyd gyda chymorth disgyblion o Ysgol Brynrefail.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





