Serious Brain Power
School of Biosciences
School of Chemistry
School of Psychology
Archwiliwch yr amrywiaeth anhygoel o waith ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd gyda’r arddangosfa Serious Brain Power yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ledled y byd. Mae’r arddangosfa hwn yn dangos projectau unigol gyda ffotograffau mawr lliw o’r 29 ysgol oddi mewn i’r sefydliad.
Maent yn cyfuno 43 o ddelweddau wedi’u gwneud o ffotograffau, darluniau a delweddau wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiaduron, ac maent yn cynrychioli amrywiaeth a buddiannau’r gwaith ymchwil sy’n digwydd ym mhob un o’r ysgolion academaidd.
O ddelweddau trawiadol o ficro-nodwyddau o’r Ysgol Fferylliaeth i ddelwedd o’r llwybrau ffibr mater gwyn yn yr ymennydd dynol o’r Ysgol Seicoleg, mae’r arddangosfa’n gyfle gwych i weld delweddau sy’n dangos ehangder yr ymchwil o bob rhan o Brifysgol Caerdydd.
Bydd Serious Brain Power wedi’i osod yn y gofod arddangosfeydd gwyddoniaeth yng nghefn Oriel y Morfil yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hyd at 31 Mawrth 2009.
Trwy gydweithio gyda gwahanol bartneriaid, mae projectau fel y rhain yn creu buddiannau gwirioneddol yn lleol ac yn fyd eang. Caiff y gwaith ymchwil ym mhob ysgol academaidd ei gydnabod gan aseswyr annibynnol fel gwaith o bwys rhyngwladol, ac mae’n denu’r ymchwilwyr gorau o bob cwr o’r byd i Gaerdydd bob blwyddyn.
Mae’r arddangosfa hon yn adlewyrchu dyhead yr Amgueddfa i ddod yn lleoliad ar gyfer hyrwyddo ymchwil wyddonol ledled Cymru.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ymysg prifysgolion ymchwil gorau Prydain, ac mae’n aelod o’r Grwp Russel nodedig o brifysgolion blaengar.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau