Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Darwin: newid byd

Hyd at 9 Ionawr 2010 (Nodyn. Ar agor Mawrth–Sul a Dydd Llun Gŵyl Banc)
Darwin: Newid Byd

Blywddyn hwn, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dathlu 200 mlynedd ers genedigaeth y gwyddonwr chyldroadol, Charles Darwin.

Bydd Darwin: Newid Byd yn archwilio bywyd hynod, teithiau a darganfyddiadau’r ‘tad biolegol esblygol.’

Gan ddechrau yn swyddogol ar 12 Chwefror 2009, bydd y bartneriaeth hon ar y cyd â’r Brifysgol Agored yn cyflwyno Darwin yng Nghymru. 

Mae Darwin: Newid Byd yn cynnwys ystod eang o wybodaeth o’i gyfoedion a’r mathau o anifeiliaid a phlanhigion y byddai wedi dod ar eu traws yn ystod ei daith ledled y byd, i ddatblygiadau cyfoes fel DNA ac etifeddiaeth drwy enynnau sy’n cefnogi theori Darwin.

Cynhelir amryw o weithgareddau, digwyddiadau addysgiadol a darlithoedd yn yr Amgueddfa yn ystod 2009, fel rhan o flwyddyn arbennig Darwin.

Nod yr arddangosfa yw rhannu gwybodaeth gydag ymwelwyr ynglŷn â theori esblygiad, a bydd hefyd yn mynd a Darwin ar-lein. Bydd Evolution MegaLab y Brifysgol Agored yn cynnig elfen ryngweithiol i’r arddangosfa o Ebrill 2009 ymlaen.

Gan ddefnyddio’r falwoden gyffredin fel enghraifft, bydd ymwelwyr o bob oedran - o ddisgyblion i neiniau a theidiau - yn cael y cyfle i weld esblygiad yn gweithio yn y byd naturiol o’n cwmpas.

Y bwriad yw dangos nad yw esblygiad yn theori ynysig ond yn ddigwyddiad bob dydd y gallwch brofi eich hunain.

Darwin yng Nghymru

Fe symbylwyd diddordeb Darwin mewn gwyddorau naturiol y tu hwnt i’w addysg ffurfiol gan gynnwys ei deithiau cerdded i ogledd Cymru.

Llythyr gan wyddonydd ifanc Cymreig o’r enw Alfred Russel Wallace a ysgogwyd y cyhoeddiad chwyldroadol On the Origins of Species, sy’n datgelu theori Darwin ar esblygiad.

Bydd Darwin: Newid Byd yn archwilio sut y daeth i’w gasgliad, gyda phwyslais ar ei amser yng Nghymru, lle daeth yn gyfarwydd â seiliau daeareg am y tro cyntaf.

Fe ddychwelodd i Gymru gyda’r Athro Adam Sedgwick, un o’r daearegwyr enwocaf erioed. Fe aethon nhw ar daith ddaearegol yng Ngogledd Cymru yn haf 1831 a bu’r hyn a ddysgodd o’r Athro o fudd enfawr iddo yn ystod ei daith o amgylch y byd ar y Beagle.

Am ragor o fanylion ynglŷn ag astudio Darwin neu ymweliadau astudio’r Brifysgol Agored ymwelwch â www.openuniversity.co.uk/darwin.

Pawb / Am ddim

iCal Ychwanegu i Outlook / iCal
iCal Ychwanegu i Google Calendar

Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hafan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau