Seiniau’r Neanderthaliaid
[delwedd: Seiniau'r Neanderthaliaid]
[delwedd: Seiniau'r Neanderthaliaid]
[delwedd: Rhombus Arts]
Fel rhan o Cynhadledd Archeolegol - Caerdydd 2009, ymwelwch ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am darlith arbennig a pherfformiad cerddorol.
Rhwng 6pm-8pm ar 8 Chwefror 2009, bydd yr Athro Steven Mithen, arbenigydd ym maes astudio meddyliau pobl o’r gorffennol yn cyflwyno Seiniau’r Neanderthaliaid. Bydd y sesiwn yn edrych ar rôl cerddoriaeth, ac yn enwedig canu, ym mywydau’r Neanderthaliaid.
Daw’r ddarlith i ben gyda pherfformiad arbennig o gerddoriaeth a gomisiynwyd gan y cyfansoddwr a’r artist sain, Simon Thorne, ar sail yr olion ffosil Neanderthalaidd sydd ar ddangos yn ein horiel Gwreiddiau.
Mae Simon Thorne yn un o brif gyfansoddwyr Cymru, rebel ysbrydoledig sy’n cyfansoddi cerddoriaeth anghyffredin o brydferth. Yma mae’n cyd-chwarae â phedwar canwr hynod, pob un yn feistr ar steiliau a thechnegau caneuon y byd.
Gyda’i gilydd maent yn creu seremoni ar gyfer y ddaear fel petai’n newydd-anedig i’n clyw. Gyda thafluniad fideo i gyd-fynd ag ef, bydd y gwaith yn ein tywys i ogof ein hymwybyddiaeth i oleuo gwreichion cyntaf cyfathrebu.
Bydd y noson hon yn wirioneddol rhyfeddol, yn ymgais i olrhain gwreiddiau. Nid yn yr ystyr hanesyddol, ond i ateb y cwestiwn pam ddechreuon ni wneud cerddoriaeth yn y lle cyntaf? Cymerwch daith ar hyd caneuon ein cyndeidiau, at foment lle unwyd iaith a chân yn yr un anadl reddfol.
Gwaith ar y cyd gyda Rhombus Arts.
Gyda chymorth Setliad Elusennol G.C. Gibson.
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau